#                                                                                      

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil: Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Rhif y ddeiseb: P-05-776

Teitl y ddeiseb: Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Testun y ddeiseb: Galwn ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a choffáu tri chan mlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn eleni (1717-2017). Credwn fod Williams Pantycelyn wedi gosod y seiliau ar gyfer y Gymru Fodern trwy ei holl emynau (dros 900), ei weithiau llenyddol amrywiol (90), a'i genhadu diflino dros yr efengyl trwy Gymru ben baladr am 40 mlynedd. Arweiniodd Diwygiadau Methodistaidd y 18fed ganrif, y bu Williams yn rhan mor allweddol ohonynt, at sefydlu'r corff cenedlaethol cyntaf yn hanes Cymru ers 400 mlynedd, sef Methodistiaid Calfinaidd Cymru (1811). Roedd hwnnw yn ei dro yn gyfrwng i sbarduno cyfres o ddiwygiadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pellach fu'n gwbl ganolog wrth greu'r Gymru Fodern. Mae Pantycelyn felly yn fwy na dim ond un o ffigurau mawr y traddodiad ffydd yng Nghymru. Mae'n un o ffigurau mawr ein stori genedlaethol fel Cymry. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei gyfraniad anferthol i'n cenedl a galwn ar y Llywodraeth i drefnu dathliad priodol wedi i'r aelodau ddychwelyd i Gaerdydd ym mis Medi.

Gwybodaeth ychwanegol:

Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi trefnu dathliadau cyffelyb i nodi cyfraniadau dau o Gymry amlwg eraill yn ddiweddar. Y llynedd, dathlwyd cyfraniad y nofelydd plant Roald Dahl, a'r flwyddyn gynt, dathlwyd cyfraniad y bardd Dylan Thomas. Gwariwyd symiau helaeth o arian trethdalwyr Cymru ar y digwyddiadau hyn.
Gyda chynsail fel hon wedi ei gosod ddwywaith yn ddiweddar, credwn y byddai'n anesgusodol i'n llywodraeth genedlaethol wrthod cydnabod cyfraniad Williams Pantycelyn yn yr un modd.
Gyda phob dyledus barch i Dylan Thomas a Roald Dahl, a'u cyfraniadau unigol yn eu meysydd priodol - does dim modd cymharu eu cyfraniadau hwy i fywyd Cymru gyfan gyda chyfraniad y Pêr Ganiedydd, William Williams.
Bu ymateb cyhoeddus ffyrnig yn ddiweddar i ffiasgo " Y Cylch Haearn" a'r syniad hwn o wario £400,000 i ddathlu goresgyniad Cymru gan Edward I gyda darn o gelf yng Nghastell y Fflint. Y gŵyn a gafodd ei mynegi dro ar ôl tro gan aelodau o'r cyhoedd oedd, sut ar wyneb y ddaear gallai Llywodraeth Cymru fod mor anwybodus ac ansensitif am hanes Cymru ei hun?
Byddai dathlu a choffáu bywyd a gwaith Williams Pantycelyn mewn modd priodol yn dangos fod gan Lywodraeth Cymru ymdeimlad tuag at ein hanes cenedlaethol. 
Un syniad y carem ichi ei ystyried ydy trosglwyddo'r arian a ddynodwyd ar gyfer y Cylch Haearn a chodi darn o gelf aruchel yn Llanymddyfri i gofio am Y Pêr Ganiedydd.

William Williams Pantycelyn

Ganwyd William Williams yng Nghefn-coed ger Pentre-tŷ-gwyn ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin yn 1717. Wedi marwolaeth ei dad, symudodd ei fam i’w hen gartref teuluol, fferm gyfagos o’r enw Pantycelyn.

Cafodd William Williams dröedigaeth wrth wrando ar y diwygiwr efengylaidd, Howel Harris, yn pregethu ym mynwent Talgarth yn 1737, cyn cael ei ordeinio’n ddiacon yn 1740, a gweithio fel curad i Theophilus Evans yn Llanwrtyd, Llanfihangel a Llanddewi Abergwesyn tan 1743. Gwrthododd esgob Tyddewi ei urddo’n offeiriad yn 1743, oherwydd ei weithgareddau Methodistaidd, felly penderfynodd fod yn bregethwr teithiol.

Ysgrifennodd William Williams sawl casgliad o emynau, a’i emyn fwyaf poblogaidd yw Arglwydd, Arwain Trwy’r Anialwch, sy’n fwy adnabyddus fel Guide me, O thou great Jehovah, sef cyfieithiad Peter Williams o 1771. Nid emynwr yn unig oedd William Williams, ysgrifennodd farddoniaeth a rhyddiaith hefyd.

Bu farw William Williams yn 1791, a chafodd ei gladdu yn eglwys Llanfair-ar-y-bryn.

Dathlu Dylan Thomas

Yn 2014 cafodd cyfres o ddigwyddiadau eu trefnu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor y Celfyddydau, Cyngor Abertawe a Chyngor Sir Gaerfyrddin, i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys:

§  Taith lenyddol ac arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol;

§  Perfformiad llwyfan o A Child’s Christmas in Wales;

§  Cynhyrchiad o Under Milk Wood; a

§  Phum cyngerdd ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ôl adroddiadau newyddion ym mis Mehefin 2012, roedd cyfanswm o £750,000 ar gael gan Lywodraeth Cymru, Cyngor y Celfyddydau, Cyngor Abertawe a Chyngor Sir Gaerfyrddin, i’r rheiny oedd am drefnu digwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Roedd £500,00 ar gael ar gyfer trefnu tri neu bedwar o ddigwyddiadau mawr o safon rhyngwladol, £225,000 ar gyfer hyd at 10 o weithgareddau canolig, a £25,000 i’w rannu ymysg digwyddiadau cymunedol bychan.

Dathlu Roald Dahl

Yn 2016 cafodd cyfres o ddigwyddiadau eu trefnu gan Lywodraeth Cymru, National Theatre Wales, Canolfan Mileniwm Cymru a Llenyddiaeth Cymru, i ddathlu canmlwyddiant geni Roald Dahl. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys:

§  City of the Unexpected – cynhyrchiad ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru, oedd yn cael ei berfformio ar hyd ac ar led Caerdydd, gan ddathlu bywyd a gwaith Roald Dahl;

§  Prosiect Gwlad y Gân; ac

§  Arddangosfa o ddarluniau Quentin Blake, fu’n gyfrifol am greu’r darluniau ar gyfer nifer o lyfrau Roald Dahl.

Yn ôl cais Rhyddid Gwybodaeth o fis Hydref 2016, bu i Uned Prif Ddigwyddiadau Llywodraeth Cymru gefnogi dau ddigwyddiad i ddathlu canmlwyddiant Roald Dahl, gyda’r llywodraeth yn darparu £500,000 o grantiau tuag at y prosiectau.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i’r ddeiseb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, bod Llywodraeth Cymru yn ariannu’r celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sy’n gweithio o fewn fframwaith strategol wedi’i bennu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Uned Prif Ddigwyddiadau wedi ariannu digwyddiadau a gweithgareddau, a drefnwyd gan bartneriaid, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant llenorion o Gymru, gan gynnwys Roald Dahl a Dylan Thomas. Yn ôl llythyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan y ddau awdur yma broffiliau rhyngwladol ac roedd y rhaglenni cysylltiedig yn bodloni’r meini prawf sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn cloi’r llythyr, drwy ddweud:

Wrth gwrs, byddai’r Uned Prif Ddigwyddiadau yn ystyried cynigion gan bartneriaid neu grwpiau eraill ar ffyrdd o ddathlu ffigyrau eiconig eraill, megis William Williams, Pantycelyn – yn enwedig yn ystod Blwyddyn Chwedlau 2017. Fodd bynnag, dylid nodi ei bod wedi cymryd sawl blwyddyn i gwblhau’r trefniadau ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Roald Dahl a Dylan Thomas.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.